Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mawrth 2020
Diwygio Rheolau Sefydlog: Busnes y Cynulliad a Gweithdrefnau Brys
Diben
1. Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae’r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Cynulliad, gan gynnwys unrhyw gynigion ar gyfer ail-wneud y Rheolau Sefydlog neu eu diwygio.
2. Mae'r adroddiad yn argymell newidiadau i Reolau Sefydlog 6 ac 12. Mae’r cynigion ar gyfer Rheolau Sefydlog newydd i’w gweld yn Atodiad A.
Cefndir
3. Ar ôl ystyried effaith bosibl yr achosion o feirws Covid-19 ar fusnes y Cynulliad, mae’r Pwyllgor Busnes wedi cytuno ar y diwygiadau arfaethedig i’r Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad A, a hynny ar ffurf Rheol Sefydlog 34 newydd.
4. Cynigir bod Rheol Sefydlog 34 yn ymgorffori'r Rheolau Sefydlog 6.24A-H a 12.1A-C newydd a dderbyniwyd yr wythnos diwethaf, ac felly mae'r Rheolau Sefydlog hynny'n cael eu dirymu.
Cam i’w gymryd
5. Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog yn ffurfiol ar 23 Mawrth 2020 a gwahoddir y Cynulliad i gymeradwyo'r cynigion a nodir yn Atodiad A ac i ddirymu’r newidiadau a wnaed ddydd Mercher 18 Mawrth 2020.
34. RHEOL SEFYDLOG 34 - Gweithdrefnau Brys
34.1 Mae Rheol Sefydlog 34 yn gwneud darpariaethau dros dro i hwyluso parhad busnes y Cynulliad yn ystod yr achosion o COVID-19. Bydd Rheol Sefydlog 34 yn peidio â chael effaith pan gaiff y Cynulliad ei ddiddymu, neu pan fydd y Cynulliad yn penderfynu felly, pa un bynnag sydd gyntaf. Pan fo darpariaethau a gynhwysir yn Rheol Sefydlog 34 yn gwrthdaro â darpariaethau eraill y Rheolau Sefydlog, rhaid rhoi blaenoriaeth i'r rhai yn Rheol Sefydlog 34.
Llywydd Dros Dro Dynodedig
34.2 Os bydd y Cynulliad o’r farn bod hynny’n briodol, caiff ethol Aelod yn Llywydd Dros Dro dynodedig i arfer swyddogaethau'r Llywydd.
34.3 Rhaid i'r Llywydd Dros Dro dynodedig ymgymryd â swyddogaethau'r Llywydd, ond dim ond ar ôl i'r Clerc hysbysu'r Cynulliad bod y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd yn methu â gweithredu.
34.4 Bydd y Llywydd Dros Dro dynodedig yn peidio ag arfer y swyddogaethau hyn pan fydd y Clerc yn hysbysu'r Cynulliad bod naill ai'r Llywydd neu'r Dirprwy Lywydd yn gallu gweithredu.
Cadeirydd Dros Dro yn y Cyfarfodydd Llawn
34.5 Caiff y Cynulliad ethol Cadeirydd Dros Dro at ddibenion cadeirio cyfarfodydd llawn.
34.6 O ran swyddogaethau’r Llywydd, dim ond y swyddogaethau a ganlyn y caiff Cadeirydd Dros Dro a etholir o dan Reol Sefydlog 34.5 ymgymryd â hwy:
(i) swyddogaethau mewn perthynas â busnes yn y cyfarfodydd llawn o dan Reol Sefydlog 12;
(i) swyddogaethau mewn perthynas â threfn yn y cyfarfodydd llawn o dan Reol Sefydlog 13;
(ii) unrhyw swyddogaethau eraill mewn perthynas â busnes yn y cyfarfodydd llawn.
34.7 Dim ond ar ôl i'r Clerc hysbysu'r Cynulliad fod y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd yn methu â chadeirio cyfarfodydd llawn y caiff Cadeirydd Dros Dro ymgymryd â’r swyddogaethau a bennir o dan Reol Sefydlog 34.6.
34.8 Bydd Cadeirydd Dros Dro yn peidio ag arfer y swyddogaethau hyn pan fydd y Clerc yn hysbysu'r Cynulliad fod naill ai'r Llywydd neu'r Dirprwy Lywydd yn gallu cadeirio cyfarfodydd llawn.
Y Llywydd yn adalw’r Cynulliad
34.9 Caiff y Llywydd, gyda chytundeb y Pwyllgor Busnes, gynnull y Cynulliad i ystyried mater sydd o bwys cyhoeddus brys sy'n ymwneud ag iechyd y cyhoedd.
Cworwm yn y Cyfarfod Llawn
34.10 Pan fo'r Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, yn penderfynu ei fod yn ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, nid yw pleidlais yn ddilys oni bai bod o leiaf 4 Aelod yn cymryd rhan, a bod yr Aelodau hynny'n cynrychioli mwy nag un grŵp gwleidyddol.
Pleidleisio yn y Cyfarfod Llawn
34.11 Pan fo'r Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, yn penderfynu ei fod yn ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, caiff pob grŵp gwleidyddol (neu grwpiad a ffurfir at ddibenion Rheol Sefydlog 11) enwebu un Aelod o'r grŵp neu'r grwpiad i gael yr un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp neu grwpiad, neu yn achos grŵp gwleidyddol sydd â rôl weithredol, aelodau’r grŵp hwnnw yn ogystal ag unrhyw aelodau eraill o’r llywodraeth.
34.12 Yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 34.13, mae Rheol Sefydlog 34.11 yn gymwys i holl fusnes y Cyfarfod Llawn.
34.13 Nid yw Rheol Sefydlog 34.11 yn gymwys pan fo deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i basio penderfyniad neu gynnig drwy bleidlais lle bydd nifer yr Aelodau sy'n pleidleisio o blaid y penderfyniad neu'r cynnig ddim llai na dwy ran o dair o gyfanswm seddau'r Cynulliad.
34.14 Rhaid dangos pleidlais a gafodd ei bwrw o dan
delerau Rheol Sefydlog 34.11 yn glir yn y cofnod o drafodion y
Cyfarfod Llawn.
Hygyrchedd Cyfarfodydd Llawn
34.15 Caiff y Llywydd wahardd y cyhoedd rhag bod yn bresennol mewn cyfarfodydd llawn pan fydd angen gwneud hynny er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Os digwydd hynny, rhaid parhau i ganiatáu mynediad ar gyfer darlledu.
34.16 Ni fydd y gofyniad yn Rheol Sefydlog 34.15 i barhau i ganiatáu mynediad ar gyfer darlledu yn gymwys pan fydd y Comisiwn yn penderfynu ei bod yn anymarferol darlledu'r trafodion.
34.17 Os yw Rheol Sefydlog 34.10, 34.15 neu 34.16 i gael ei chymhwyso, rhaid i'r Llywydd neu'r clerc:
(i) hysbysu'r Cynulliad; a
(ii) cyhoeddi'r penderfyniad, lle bo hynny'n ymarferol bosibl, cyn y cyfarfod.
Cwestiynau llafar
34.18 Os bydd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â’r Pwyllgor Busnes, o’r farn ei bod yn angenrheidiol am resymau iechyd y cyhoedd, caiff y Llywydd ddatgymhwyso gofynion Rheol Sefydlog 12.56 ar gyfer unrhyw wythnos neu wythnosau y mae’r Cynulliad yn eistedd mewn Cyfarfod Llawn.
Hygyrchedd Cyfarfodydd Pwyllgor
34.19 Caiff y cadeirydd wahardd y cyhoedd o gyfarfod pwyllgor pan fydd angen gwneud hynny er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Os digwydd hynny, rhaid parhau i ganiatáu mynediad ar gyfer darlledu.
34.20 Ni fydd y gofyniad yn Rheol Sefydlog 34.19 i barhau i ganiatáu mynediad ar gyfer darlledu yn gymwys pan fydd y Comisiwn yn penderfynu ei bod yn anymarferol darlledu'r trafodion.
34.21 Os yw Rheol Sefydlog 34.19 neu 34.20 i gael ei chymhwyso, rhaid i'r cadeirydd neu'r clerc:
(i) hysbysu'r pwyllgor; a
(ii) cyhoeddi'r penderfyniad, lle bo hynny'n ymarferol bosibl, cyn y cyfarfod.
Pwyllgor Cyfrifol o dan Reol Sefydlog 21
34.22 Os bydd y Pwyllgor Busnes o’r farn ei bod yn angenrheidiol, caiff
(i) datgymhwyso Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3 yn gyfan gwbl neu’n rhannol;
(ii) cytuno bod y Cynulliad cyfan yn ymgymryd â’r swyddogaethau o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3 yn gyfan gwbl neu’n rhannol.
34.23 Caiff y pwyllgor cyfrifol o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3, pan fydd yn barnu bod hynny’n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, gyflwyno adroddiad yn hwyrach na'r rheol 20 diwrnod a nodir yn Rheol Sefydlog 21.4.